Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 18
Hydref 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y broses gaffael i weithredu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu am fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau? EAQ(5)0055(EI)
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
(45 munud)
Dogfen Ategol
Comisiwn
Seilwaith Cenedlaethol Cymru
(30 munud)
(30 munud)
Dogfen Ategol
Datganiad
Ysgrifenedig - Gwasanaethau Bws Lleol
(60 munud)
NDM 6117 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer
2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud
er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.
‘Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog’
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 19 Hydref 2016